Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Gofal Cenedlaethol - CAMHS

Adolygiad Gofal Cenedlaethol - CAMHS

Crynobed o'r canfyddiadau

Dyma grynodeb o’r canfyddiadau a’r argymhellion ledled holl feysydd yr Adolygiad Iechyd Cenedlaethol hwn. 

Llwybr Mynediad:
Er y gallai’r mynediadau cyfredol fod yn briodol, dylid ystyried a oes cyfle o gwbl i ddatblygu llwybrau gofal gwahanol i atal/leihau derbyniadau yn y dyfodol, rhwng cartrefi plant a gofal diogel, canolig, unedau acíwt CAMHS GIG Cymru a PICU/diogelwch isel.

Cydlynu Gofal:
Rhaid sicrhau bod gan bob plentyn gydlynydd gofal, reolwr achos, neu unigolyn proffesiynol arall i gynnal cyswllt rheolaidd â gwasanaethau. Rhaid i’r bobl yma sicrhau y bodlonir anghenion pob plentyn, eu bod yn gweithredu fel eiriolwr, yn sicrhau yr archwilir pob cwyn neu achos, a bod unrhyw ymyrraeth gyfyngol yn angenrheidiol a chymesur.

Cynllunio Gofal:
Rhaid sicrhau bod pob Cynllun Gofal a Thriniaeth yn cael eu cyd-gynhyrchu gan y plentyn, ac y cânt eu hadolygu’n rheolaidd. Rhaid i dimau gofal lleol sicrhau eu bod yn rhan o waith datblygu ac adolygu’r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth. 

Canlyniadau Comisiynu:
Dylem sicrhau bod y comisiynydd a darparwr pob lleoliad wedi cytuno ar gyfres o ganlyniadau cadarn. Dylem sicrhau y gwneir cynnydd tuag at fodloni’r canlyniadau hyn ac y cânt eu monitro’n agos, fel y gallwn sicrhau bod pob taith drwy ofal plant a leolir yn ysbytai CAMHS yn digwydd mor fuan â phosibl.

Diagnosis:
Dylem sicrhau bod gwasanaethau’n ystyried anghenion plant a chanddynt Gyflwr Sbectrwm Awtistiaeth fel rhai gwahanol, er, o bryd i’w gilydd maent wedi eu rhyng-gysylltu, i’r rheini a chanddynt salwch meddwl.

Gwyliau:
Dylem sicrhau y gall pob plentyn, lle bo’n ddiogel a therapiwtig, gael absenoldeb yn y gymuned neu absenoldeb gartref.

Hyd y Derbyniad Cyfredol:
Mae hyd ambell i arhosiad, yn arbennig mewn unedau diogel isel, i bob golwg yn helaeth. Dylem sicrhau nad yw pob plentyn yn aros yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol o ran darpariaeth asesu priodol, gofal a thriniaeth.

Lefelau Gofal:
Dylem sicrhau yr archwilir y materion sy’n dilyn: Diogelwch - rhagwelwyd bod 2 blentyn ond 2, yn yr ystod oed disgwyliedig y math hwn o ofal, gydag 1 yn is na’r hyn a ddisgwyliwyd, ac 1 yn uwch. Gweithgareddau - roedd pob plentyn yn yr ystod oed disgwyliedig am y math hwn o ofal. Meddyginiaeth - roedd pob un ond 1 plentyn yn yr ystod ddisgwyliedig am y math hwn o ofal, gydag 1 yn uwch na’r hyn a ddisgwyliwyd.

Meddyginiaeth:
Dylem sicrhau yr adolygir pob meddyginiaeth er mwyn sicrhau y rhagnodir hwy ar y dos lleiaf posibl i sicrhau’r lleihad a ddymunir mewn symptomau. Dylem sicrhau y rhoddir meddyginiaeth er diben tawelu ymddygiad aflonydd ac fe’i defnyddir fel yr ymyrraeth olaf un. Dylem archwilio pob cyfle i leihau’r defnydd o PRN.

Meddyginiaeth Monitro Sgil Effeithiau:
Dylem sicrhau y caiff pob plentyn sy’n cael meddyginiaeth seicotroffig neu hypnotig a ragnodwyd ei fonitro’n rheoliad ar gyfer sgil effeithiau posibl ac y c aiff wiriadau iechyd corfforol yn rheolaidd, os yn briodol.

Deddf Iechyd Meddwl:
Dengys yr wybodaeth hon fod gennym lwybrau ar waith i ofalu fod plant a chanddynt faterion cyfiawnder troseddol yn cael asesiad a gofal priodol. Rhaid sicrhau y caiff pob plentyn fynediad at y llwybrau hyn a’u bod mor gadarn â phosibl.

Gofal Iechyd Sylfaenol ac Ar frys:
Dylem sicrhau bod pob plentyn yn cael gwasanaethau iechyd sylfaenol yn rheolaidd, yn ôl y gofyn. Dylem sicrhau bod amgylcheddau gofal yn ddiogel er mwyn lleihau’r angen i gael gwasanaethau gofal ar frys. Dylem sicrhau y caiff pob plentyn ofal mewn argyfwng, pan fo’i angen.

Safon [Cynllunio Gofal]:
Yn gyffredinol, mae rhan fwyaf y darparwyr yn arddel agwedd holistaidd a phersonol er mwyn asesu’r unigolyn, bodlon ei anghenion, a sicrhau ei bod yn gallu rheoli, ac yn wybodus. Rhaid i ni sicrhau bod pob uned yn cynnal adolygiadau gofal a thriniaeth yn rheolaidd. 

Safon [Addysg]:
Gwnaed pob uned ymdrech i fodloni gofynion addysg y plentyn, er yr angen i gydbwyso hynny yn erbyn pryderon risg a diogelwch. Mae’n rhaid i asesiadau gynnwys anghenion addysgol a materion cyn-mynediad.

Safon [Maetheg]:
Yn gyffredinol, mae unedau’n darparu deiet iachus, cytbwys a chymorth dieteteg. Er, ni chafodd pob mater ei ganfod drwy asesu cychwynnol.

Safon Ymyriadau Ffarmacolegol:
Yn gyffredinol, caiff meddyginiaeth ei ddosbarthu, ei weinyddu a’i fonitro mewn modd gweithredol a’i archwilio’n allanol. Canfuwyd diffyg i ganfod sgil effeithiau posibl meddyginiaethau. Yn hytrach, gwelwyd gorddibyniaeth ar sgiliau staff

Ansawdd [Iechyd Corfforol]:
Gwnaethpwyd gwiriadau iechyd corfforol ar y rhan fwyaf o unedau, gyda llawer yn cynhyrchu cynlluniau iechyd corfforol cadarn. Dylai pob plentyn gael cynllun gofal iechyd corfforol.

Ansawdd [Ymyriadau cyfyngol]:
Yn gyffredinol, defnyddir ataliaeth mewn modd cymedr a phriodol ond mae angen iddo fod yn bersonol, gael ei drafod a’i gofnodi fel rhan o’r cynllun gofal a thriniaeth. Prin yw’r defnydd ar neilltuaeth, ond pan ddefnyddir ef, rhaid iddo fod am y cyfnod lleiaf posibl. Mae gwaharddiadau cyfan gwbl yn gyffredin. Rhaid adolygu pob gwaharddiad hollgynhwysfawr yn rheolaidd, er sicrhau eu bod yn angenrheidiol, ac wedi’u cydbwyso yn erbyn rhyddid personol.

Ansawdd [Staff]:
Yn gyffredinol, mae staff yn fedrus iawn, yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi, er y dylid dibynnu llai ar staff asiantaethau. Teimla’r plant fod staff yn gefnogol.

Ansawdd [Arsylwadau gofal]:
Yn gyffredinol, adolygwyd arsylwadau diogelwch yn rheoliad er sicrhau bod cyfiawnhad drostynt, ac y gwireddwyd a chofnodwyd nhw.

Ansawdd [Diogelwch a Lles]:
Yn gyffredinol, gwneir asesiad risg a rheolaeth yn ac fe’i hadolygwyd yn rheolaidd. Mae prosesau diogelu ar waith. Ceisir barn ac awgrymiadau plant.

Ansawdd [Ymyriadau Therapiwtig]:
Caiff pob plentyn gefnogaeth unigol, amrywiol, a chymorth seicolegol a therapiwtig mewn grŵp.

Ymyriadau cyfyngol - ‘Cyfyngiadau hollgynhwysfawr’:
Dylem sicrhau bod pob cyfyngiad hollgynhwysfawr yn ystyriol, yn gymesur, wedi ei gofnodi, a’i weinyddu am y cyfnod lleiaf posibl.

Ymyriadau cyfyngol - Ataliaeth/Gwahaniad:
Dylem sicrhau y gwnaethpwyd yr un digwyddiad o ataliaeth wyneb i lawr fel y weithred olaf un. Dylem archwilio nifer yr achosion uchel o ‘ddad-ddwysáu geiriol’ er mwyn sicrhau y cymerir pob cam gweithredu i hyrwyddo diwylliant ac awyrgylch cadarnhaol ar y wardiau. Dylem archwilio nifer uchel o achosion ‘ymarferol (dim ataliaeth)’ er sicrhau nad ataliaeth mohonynt, o ran eu natur na’u graddfa. Dylem archwilio’r defnydd cyson o ‘derfynu’ er sicrhau nad neilltuaeth mohono. Dylem sicrhau bod pob achos o ‘neilltuaeth’ yn weithredol olaf un ac y gwnaed hynny mewn amgylchedd addas, am y cyfnod lleiaf angenrheidiol ac y cofnodwyd hynny’n fanwl.

Ymddygiadau Risg:
Rhaid i ni sicrhau bod darparwyr yn cymryd pob cam gweithredu i leihau’r lefelau uchel o ymddygiad ymosodol, yn arbennig ymhlith bechgyn. Rhaid i ni sicrhau bod darparwyr yn cymryd pob cam gweithredu i leihau’r lefelau uchel o ymddygiad bygythiol, yn arbennig ymhlith bechgyn. Rhaid i ni sicrhau bod darparwyr yn cymryd pob cam gweithredu i leihau’r lefelau uchel o ymddygiad treisgar, yn arbennig ymhlith bechgyn. Dylem sicrhau bod darparwyr yn cymryd pob cam gweithredu i leihau’r lefelau uchel o hunan-niweidio bwriadol ymhlith bechgyn. Dylem barhau i fonitro ymddygiad peryglus plant mewn ysbytai i sicrhau nad yw’r ymddygiad hwn yn cael ei reoli a’i leihau yn briodol, drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar roi lle canolog i’r unigolyn, yn seiliedig ar werthoedd, gan staff profiadol, medrus.

Therapi:
Dylem sicrhau bod pob darparwr yn cyflogi ac yn trefnu tîm amlbroffesiwn i ffurfio, asesu, trin ac adolygu ymyriadau clinigol, therapiwtig a seicolegol a dulliau i ddarparu gofal effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn diwylliant cadarnhaol, gobeithiol i bob plentyn.