Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn am esboniad o ‘sut beth yw da’ i gleifion sy’n defnyddio Adrannau Argyfwng, ac i’r Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Adrannau Argyfwng gael ei greu ar gyfer GIG Cymru (EDQDF). Bydd hyn yn cynnwys gwaith i gytuno ar safonau gofal, dull unffurf o fesur gweithgarwch a model gofal y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer Adrannau Argyfwng fel y gellir sicrhau’r canlyniadau clinigol gorau a’r profiad gorau i gleifion a staff.
Y bwriad yw datblygu’r gwaith arweiniodd at greu model trawsnewidiol a’r manteision cysylltiedig i wasanaethau ambiwlans brys yn rhan o system gofal mewn argyfwng a gofal brys ehangach Cymru, yn ogystal â datblygu a gweithredu model newydd ar gyfer adrannau argyfwng mewn Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi. Mae hyn yn creu glasbrint er mwyn cyflawni canlyniadau cyffredinol sy’n cyd-fynd â phedwar nod Adolygiad Senedd y DU:-
Am fwy o wybodaeth, darllenwch y papur briffio atodol