Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Gofal Cenedlaethol - Anableddau Dysgu

Adolygiad Gofal Cenedlaethol - Anableddau Dysgu

Argymhellion

Mae’r Adolygiad Gofal Cenedlaethol hwn yn gwneud 70 argymhelliad penodol i ddarparwyr a
chomisiynwyr gofal, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, eu hystyried.

Darparwyr

Argymhelliad 1: Dylai darparwyr sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r gwahaniaethau yng nghyflwyniad ac angen cleifion benywaidd a gwrywaidd.

Argymhelliad 3: Dylai darparwyr sicrhau y caiff staff eu hyfforddi i gydnabod anghenion pobl hŷn ag anabledd dysgu a diwallu’r anghenion hyn.

Argymhelliad 11: Dylai darparwyr sicrhau bod gan bob claf, nad yw’n cael ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu dan Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, y gallu i gydsynio i fod yn glaf mewnol.

Argymhelliad 12: Dylai darparwyr sicrhau bod pob claf a gedwir dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn ymwybodol o’u hawliau.

Argymhelliad 17: Dylai darparwyr sicrhau y caiff cynlluniau cymorth ysbyty eu hadolygu’n rheolaidd, o fewn cyfnod o dri mis fan bellaf.

Argymhelliad 19: Dylai darparwyr sicrhau y caiff pob cynllun gofal a chynllun cymorth Ysbyty ei ddatblygu gydag amcanion penodol, canlyniadau mesuradwy ac amserlenni clir.

Argymhelliad 22: Dylai darparwyr sicrhau y caiff canlyniadau’r claf eu trafod fel rhan o’r cynllun gofal ac adolygiadau o gynlluniau cymorth Ysbyty.

Argymhelliad 24: Dylai darparwyr sicrhau y caiff yr holl feddyginiaeth ei rhagnodi ar y dos lleiaf i liniaru’r symptomau a gadarnhawyd.

Argymhelliad 26: Dylai darparwyr sicrhau y caiff pob meddyginiaeth ei hadolygu’n rheolaidd am effeithiolrwydd ac y rhoddir gorau i’w rhoi lle dangosir nad yw’n effeithiol.

Argymhelliad 27: Dylai darparwyr sicrhau y caiff y claf, y tîm gofal lleol a’r gofalwyr fod yn rhan o’r penderfyniad i ddechrau unrhyw feddyginiaeth seicotropig neu roi’r gorau i’w rhoi.

Argymhelliad 28: Dylai darparwyr sicrhau y caiff graddfa monitro sgil — effeithiau cydnabyddedig ei chwblhau ar gyfer pob claf y rhagnodir iddo feddyginiaeth seicotropig.

Argymhelliad 29: Dylai darparwyr sicrhau y caiff cleifion a theuluoedd wybodaeth am yr effeithiau a ddymunir gan feddyginiaeth a’i sgil — effeithiau posibl, a hynny ar fformat hawdd ei ddarllen.

Argymhelliad 30: Dylai darparwyr gofnodi pob achos o ymddygiad sy’n herio.

Argymhelliad 31: Dylai darparwyr sicrhau amgylchedd gofal diogel, effeithiol a therapiwtig er mwyn lleihau rhwystredigaeth a diflastod a allai arwain at ymddygiadau sy’n herio.

Argymhelliad 32: Dylai darparwyr sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i gydnabod ymddygiadau sy’n gwaethygu a sicrhau ymyraethau cadarnhaol ac ataliol.

Argymhelliad 34: Dylai darparwyr sicrhau y byddir yn gwarchod lles staff os dônt i gysylltiad ag ymddygiadau sy’n herio.

Argymhelliad 35: Dylai darparwyr sicrhau y dylid defnyddio cyn lleied o rym, am y cyfnod byrraf, wrth ymwneud ag ymyrraeth gyfyngol ac y dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hunan – barch, urddas, preifatrwydd, gwerthoedd diwylliannol ac anghenion unigol y claf.

Argymhelliad 36: Dylai darparwyr sicrhau y caiff pob achos o ymyrraeth gyfyngol ei gofnodi, ei adolygu ac yr adroddir arno.

Argymhelliad 37: Dylai darparwyr sicrhau bod unrhyw ymyrraeth gyfyngol yn gymesur â’r risg a berir gan yr ymddygiad sy’n herio.

Argymhelliad 40: Dylai darparwyr sicrhau y dylai’r rhesymeg dros ddefnyddio unrhyw a holl gyfyngiadau personol a’r cyfnod y cynlluniwyd ar eu cyfer gael ei nodi’n glir yng nghynllun cymorth ysbyty’r claf a chael ei hadolygu’n rheolaidd.

Argymhelliad 42: Dylai darparwyr sicrhau bod unrhyw gefnogaeth bwrpasol yn cydbwyso’r risg i ddiogelwch cleifion â gwaith hyrwyddo urddas ac annibyniaeth.

Argymhelliad 43: Dylai darparwyr sicrhau bod pob claf yn gallu cael mynediad diogel i’r gymuned leol ac y caiff ei annog i wneud hynny.

Argymhelliad 44: Dylai darparwyr sicrhau y gall pob claf gael at wasanaethau sylfaenol yn ôl yr angen.

Argymhelliad 45: Dylai darparwyr sicrhau y caiff presenoldeb mewn gwasanaethau gofal brys ei atal gan ymyraethau rhagataliol, lefelau staffio a hyfforddiant staff, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

Argymhelliad 49: Dylai darparwyr gynnal arolygon rheolaidd o brofiad cleifion mewn partneriaeth â gwasanaethau eirioli annibynnol a defnyddio canfyddiadau’r arolygon hyn i wella gofal.

Argymhelliad 51: Dylai darparwyr sicrhau bod eu hamgylcheddau gofal yn ddiogel, o ansawdd uchel, yn ateb y galw ac yn cael eu hatgyweirio a’u hailaddurno pan fo angen.

Argymhelliad 52: Dylai darparwyr sicrhau bod cleifion yn gallu mynd i ‘gegin y claf’ a chael gwneud diodydd poeth ac oer, ar ôl cynnal asesiad risg priodol.

Argymhelliad 54: Dylai darparwyr adolygu, cofnodi a thrafod Lefel Gofal y cleifion yn fisol i gefnogi gwaith cofnodi cynnydd.

Argymhelliad 56: Dylai darparwyr sicrhau eu bod yn edrych ar ofynion staffio pob uned yn rheolaidd ac yn eu hadolygu er mwyn sicrhau y caiff anghenion cleifion eu diwallu.

Argymhelliad 58: Dylai darparwyr sicrhau y gall y cleifion gael at y staff sydd â sgiliau, hyfforddiant a phrofiad penodol fel bod modd iddynt weithredu’r gorau posib a bod â’r lles gorau posib.

Argymhelliad 59: Dylai darparwyr sicrhau bod staff yn sicrhau ymyraethau o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni cyflwyniadau’r cleifion.

Argymhelliad 60: Dylai darparwyr sicrhau bod pob claf yn cael ei asesu am ymddygiad sy’n arwydd o sefydliadu.

Argymhelliad 61: Dylai darparwyr sicrhau bod darparu gofal yn canolbwyntio’n bennaf ar gynnal a hyrwyddo hunaneiriolaeth, hunanwytnwch, a lleihau dibyniaeth.

Argymhelliad 65: Dylai darparwyr sicrhau bod cleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ymwneud â datblygu a chyflwyno’r cynllun trosglwyddo.

Argymhelliad 66: Dylai darparwyr sicrhau y caiff y cynllun trosglwyddo ei drafod a’i ddatblygu gan staff yr uned a’r tîm gofal lleol yn eu cyfarfodydd rheolaidd.

Comisiynwyr

Argymhelliad 2: Dylai comisiynwyr ystyried y gwahaniaethau yn anghenion cleifion gwrywaidd a benywaidd wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.

Argymhelliad 4: Dylai comisiynwyr sicrhau eu bod wedi cynllunio gwasanaethau anabledd dysgu i ystyried proffil poblogaeth sy’n heneiddio.

Argymhelliad 5: Dylai comisiynwyr sicrhau eu bod wedi cynllunio gwasanaethau anabledd dysgu i ystyried carfanau cleifion ag anghenion penodol megis anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, dementia a salwch meddwl.

Argymhelliad 6: Dylai comisiynwyr sicrhau y caiff staff eu hyfforddi i gydnabod a diwallu anghenion cleifion ag anabledd dysgu sydd hefyd â chlefydau eraill megis anhwylder ar y sbectrwm awtistig, dementia a salwch meddwl.

Argymhelliad 7: Dylai’r comisiynwyr nodi’r unigolion hynny sydd fwyaf mewn perygl o gael eu derbyn i ysbyty, fel y gellir sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael i atal yr angen iddynt gael eu derbyn.

Argymhelliad 8: Dylai fod gan gomisiynwyr lwybrau clir yn eu lle i hyrwyddo dull ‘cymunedau’n gyntaf’ o weithredu a gostwng gwaith trosglwyddo cleifion o un ysbyty i’r llall.

Argymhelliad 9: Dylai comisiynwyr sicrhau na chaiff gwely ysbyty ei ystyried yn gartref i unigolyn a dylid gwneud pob ymdrech i weld gofal cymunedol fel ‘opsiwn diofyn’ ar gyfer pob claf.

Argymhelliad 10: Dylai Comisiynwyr dargedu adnoddau i drosglwyddo’r cleifion hynny mewn unedau asesu a thriniaeth sydd wedi bod yno am dros flwyddyn, a’r rheini gyda darparwyr eraill sydd wedi bod yno am dros bum mlynedd.

Argymhelliad 13: Dylai Comisiynwyr sicrhau y caiff pob claf a gedwir dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ei adolygu’n rheolaidd.

Argymhelliad 14: Dylai Comisiynwyr sicrhau y caiff pob claf yn yr Ysbyty gydlynydd gofal.

Argymhelliad 15: Dylai’r comisiynwyr sicrhau bod yr holl gydlynwyr gofal yn deall eu rôl wrth sicrhau y caiff y claf ofal mewn amgylchedd diogel ac o ansawdd uchel ac wrth gynllunio a chyflymu trosglwyddiad y claf.

Argymhelliad 16: Dylai comisiynwyr sicrhau y caiff cynlluniau gofal eu hadolygu’n rheolaidd, o fewn chwe mis fan bellaf.

Argymhelliad 18: Dylai’r Comisiynwyr sicrhau y caiff yr holl gynlluniau gofal a chynlluniau cymorth ysbyty eu cyd — gynhyrchu gyda’r claf a chyda chyfraniad y cydlynydd gofal a theuluoedd y cleifion.

Argymhelliad 20: Dylai Comisiynwyr sicrhau bod y claf, y teuluoedd, y darparwr a’r tîm gofal lleol yn cytuno ar y canlyniadau a ddymunir ar gyfer y claf pan gaiff ei dderbyn i’r Ysbyty.

Argymhelliad 21: Dylai comisiynwyr fonitro gwaith cyflawni canlyniadau yn agos, gan ymyrryd os na chaiff canlyniadau eu cyflawni mewn amser.

Argymhelliad 25: Dylai comisiynwyr sicrhau bod pob darparwr yn mabwysiadu gwaith rhagnodi ar sail tystiolaeth.

Argymhelliad 33: Dylai comisiynwyr sicrhau bod darparwyr yn cymryd risgiau cadarnhaol ystyriol ac nad ydynt yn canolbwyntio’n llwyr ar risg hanesyddol.

Argymhelliad 38: Dylai Comisiynwyr sicrhau bod pob darparwr hyfforddiant ar ymyrraeth gyfyngol yn cydymffurfio â Safonau Hyfforddi Rhwydwaith Lleihau Cyfyngiadau 2019.

Argymhelliad 39: Dylai comisiynwyr sicrhau bod gan ddarparwyr gynllun lleihau ataliaethau yn ei le ar gyfer pob claf.

Argymhelliad 41: Dylai comisiynwyr sicrhau bod yr holl gyfyngiadau cyffredinol yn gymesur, bod sail resymegol glir dros eu defnyddio ac y cânt eu hadolygu’n rheolaidd.

Argymhelliad 46: Dylai comisiynwyr sicrhau bod staff gofal iechyd cyffredinol yn cael mynediad at hyfforddiant ar anableddau dysgu ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Argymhelliad 47: Dylai comisiynwyr sicrhau bod darparwyr yn sicrhau’r gwerth gorau.

Argymhelliad 48: Dylai comisiynwyr sicrhau bod gan gleifion, teuluoedd a gofalwyr lais wrth ddylunio gwasanaeth.

Argymhelliad 50: Dylai comisiynwyr sicrhau y ceir mesurau boddhad cleifion ac y cânt eu defnyddio fel dangosyddion gwasanaethau ymatebol ac o ansawdd.

Argymhelliad 53: Dylai comisiynwyr sicrhau yr ystyrir trosglwyddo cleifion â Lefelau Gofal isel sy’n dangos y gallai amgylchedd llai cyfyngol ddiwallu eu hanghenion gofal.

Argymhelliad 55: Dylai comisiynwyr sicrhau bod gan ddarparwyr ddigon o staff i ddarparu gofal diogel a blaengar.

Argymhelliad 57: Dylai comisiynwyr sicrhau y rhoddir sylw i unrhyw ganlyniadau y mae angen i staff therapi gyfrannu atynt.

Argymhelliad 62: Dylai comisiynwyr gydnabod effeithiau negyddol sefydliadu a mynd i’r afael â nhw.

Argymhelliad 63: Dylai Comisiynwyr sicrhau y cyflwynir pob cynllun trosglwyddo.

Argymhelliad 64: Dylai comisiynwyr sicrhau bod gan bob claf gynllun ar waith i nodi’r canlyniadau i’w cyflawni er mwyn trosglwyddo i gam nesaf ei daith ofal.

Argymhelliad 67: Dylai fod gan gomisiynwyr ddull yn ei le i adolygu cynlluniau trosglwyddo ar draws y gwasanaethau y maent yn eu comisiynu i sicrhau y gwneir i ffwrdd â rhwystrau i gynnydd.

Argymhelliad 68: Dylai’r Comisiynwyr ystyried y trefniadau cynllunio gorau posibl ar gyfer modelau Newydd o wasanaethau gwell i gleifion mewnol yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Argymhelliad 69: Dylai comisiynwyr ystyried buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol sy’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac atal rhag mynd i’r ysbyty.

Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 23: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu ymgyrch genedlaethol i gefnogi’r lleihad yn y defnydd amhriodol a wneir o feddyginiaeth seicotropig.

Argymhelliad 70: Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu model cyllido cynaliadwy, er mwyn gwella gwasanaethau cymunedol a chefnogi gwaith trosglwyddo, gan gynnwys rôl buddsoddiad cymdeithasol a’r trydydd sector.