Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi

Hanes Rhaglen y Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Adrannau Argyfwng (EDQDF)

Cyfiawnhad:

Yn haf 2018, i geisio gwella profiad cleifion a chanlyniadau i’r rheiny sy’n ymweld ag adrannau argyfwng ledled Cymru, gofynnodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, am ddatblygu Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi ar gyfer Adrannau Argyfwng yng Nghymru.

Nod hwn yw dod â thimau clinigol a rheoli ar draws adrannau argyfwng GIG Cymru ynghyd i ddisgrifio sut beth yw gofal da mewn argyfwng a beth sydd ei angen ar dimau lleol i helpu i gyflawni’r weledigaeth hon a rennir, ar gyfer pobl Cymru.

CAM 1 – YMGYSYLLTU

Prif nod cam un oedd ymgysylltu â byrddau iechyd a rhanddeiliaid ledled Cymru, er mwyn deall y sefyllfa bresennol ar draws eu hadrannau argyfwng. Y gred oedd mai elfen allweddol fyddai’n galluogi’r gwaith yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n datblygu ein prosiect o’r gwaelod i fyny, a hynny dan arweiniad gweithwyr yn y rheng flaen.

Yn ystod digwyddiad cenedlaethol, daethom â phawb ynghyd i greu darlun o sut beth allai adrannau argyfwng da fod, beth fyddai ei angen i gyflawni hyn a sut gallem ni geisio rhoi hyn ar waith. Roedd ‘model gofal’ 5 cam i’r model ‘da’ newydd hwn, ynghyd ag 20 o safonau gofal. Roedd y gallu i fesur perfformiad y model newydd hwn yn hanfodol, felly crëwyd 15 o fesurau (o’r enw dangosyddion perfformiad allweddol) ynghyd â’r rhain. Cafodd y model ei gydgynhyrchu â staff yn y rheng flaen ac erbyn hyn mae’n ffurfio’r ‘Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Cenedlaethol’. 

Unwaith y cafodd y sylfeini eu creu a’u gwirio, cafodd grŵp bach ei ddethol i roi’r modiwl newydd ar waith ac i roi cynnig arno am y tro cyntaf.

CAM 2 – GWEITHREDU

Nod cam dau oedd rhoi’r Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi newydd ar waith mewn adran argyfwng sydd eisoes yn bodoli. Gan fod adrannau argyfwng ledled Cymru’n amrywio yn y modd y maen nhw’n gweithredu, cydweithiom yn agos er mwyn teilwra’r model newydd a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â phrosesau cyfredol mewn adrannau argyfwng. Bydd y gwaith o gyflawni cerrig milltir allweddol yn y model yn amrywio oherwydd yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni’r gwaith.

I hybu’r gwaith hwn, crëwyd Prosiectau Gwella Llwybrau (PIPs) er mwyn canolbwyntio ar y trefniadau gweithredol i gyrraedd y Safonau Gofal sydd ynghlwm wrth y model newydd. Byddem ni’n cydweithio ag adrannau argyfwng ar y Prosiectau hyn er mwyn:

  • Creu protocolau a gweithdrefnau clinigol a rheoli
  • Creu set ddata graidd a deall gweithgarwch adrannau argyfwng a’r llif trwyddynt
  • Sicrhau bod y model yn cael ei ddefnyddio i fapio’r adnoddau sydd eu hangen
  • Gwella’r dull o fesur a nodi cyfleoedd i ddigideiddio

Cafodd 2 o’r Prosiectau cenedlaethol, sef Trosglwyddo Ambiwlansys a Brysbennu, eu lansio ym mis Rhagfyr 2019, ac erbyn dechrau pandemig COVID-19, roedd cyfres o weithdai clinigol a gweithredol wedi arwain at greu canllawiau ynghylch “Sut beth yw da” ar gyfer Trosglwyddo Ambiwlansys a Brysbennu.

Yn ystod pandemig COVID-19, cafodd 3 phrosiect yn rhagor eu lansio yn ystod cyfres o ddigwyddiadau cynllunio camau gweithredu cyflym, a hynny dan arweiniad rhaglen y Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Adrannau Argyfwng (EDQDF). Cewch wybod mwy am y rhain yn ein hadran newyddion.

CAM 3 – MYND YN FYW

Trydydd cam y prosiect yw’r adeg pan fydd y Fframwaith yn ‘mynd yn fyw’ mewn adran argyfwng, yn ogystal â’r gwaith o rannu mewnwelediad a phrofiad er mwyn mabwysiadu’r Fframwaith yn ehangach yn GIG Cymru. Y nod yw gwreiddio’r Fframwaith mewn adran argyfwng fel y ffordd arferol y mae’n mynd wrth ei gwaith, yn ogystal â chreu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a phrofiad er mwyn llywio’r gwaith o’i fabwysiadu’n fwy eang ar draws GIG Cymru.

Mae’r cytundeb ‘pontio’ ffurfiol yn cael ei ddatblygu yn rhan o’r prosiect gweithredu yng Ngham 2 ac mae’n nodi cyfrifoldebau’r cyfranogwyr. Yn rhan o’r rhain mae’r disgwyliadau sydd ar bawb sydd ynghlwm, gan gynnwys y byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a thîm y Fframwaith. Unwaith y bydd tîm canolog y Fframwaith yn tynnu yn ôl, yr adrannau argyfwng lleol fydd yn gyfrifol am reoli eu perfformiad ac am gyflawni’r fframwaith newydd. Does dim diwedd ar gam tri gan mai gwaith parhaus adrannau argyfwng lleol yw gwneud yn siŵr bod gwerthoedd craidd y Fframwaith yn parhau i chwarae rôl ganolog yng ngweithrediadau dyddiol eu hadran argyfwng.