Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyfres o daflenni gwybodaeth cleifion enghreifftiol Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gynorthwyo ysbytai ac awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol (LSSAs) i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion sy'n destun cadw a mesurau gorfodol eraill o dan y Ddeddf. Mae'r taflenni hyn yn anstatudol ac nid oes rheidrwydd ar ysbytai na LSSAs i'w defnyddio.
Dyluniwyd y taflenni i'w hargraffu fel tudalennau A4 dwy ochr sy'n plygu i ffurfio llyfryn maint A5.
Mae'r taflenni ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. Lle mae angen lleol wedi'i ddangos, mae Llywodraeth Cymru yn annog ysbytai a LSSAs i ddarparu deunydd mewn ieithoedd a fformatau priodol eraill.