Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Iechyd Meddwl

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Mae’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol yn cynnal y ddogfen a’r wybodaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod ar gael i randdeiliaid gweithredol yn ystod proses o fudo gwybodaeth. Dylech chi anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynnwys yr wybodaeth at MentalHealthandVulnerableGroups@llyw.cymru

Ffurflenni rhagnodedig

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008 a Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 yw’r prif reoliadau sy’n ymdrin ag arfer pwerau gorfodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 parthed unigolion sy’n agored i gael eu cadw mewn ysbyty neu dan warcheidiaeth, ynghyd â chleifion cymunedol.                      

Mae’r Rheoliadau’n rhagnodi’r ffurflenni y dylid eu defnyddio wrth arfer pwerau o dan y Ddeddf, ac mae’r rhain wedi eu nodi yn Atodlen 1 o’r Rheoliadau. Daeth y Rheoliadau hyn (a’r ffurflenni rhagnodedig) i rym ar 3 Tachwedd 2008.

Mae Cod Ymarfer Cymru ar y Ddeddf Iechyd Meddwl 2016 yn nodi canllawiau ym Mhennod 4 ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi a’i hesbonio i gleifion a’u perthnasau agosaf. 

Ar 2 Mehefin 2012, daeth Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 i rym. Cafodd ffurflenni CO7, HO15, CP1, CP5 a TC8 eu diwygio a chafodd ffurflen newydd, sef C08, ei chyflwyno.

Sylwch: Dylech chi argraffu’r ffurflenni hyn ar bapur lliw pinc.  Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dewis yr opsiwn "shrink to printable area" wrth argraffu.

Taflen gwybodaeth i gleifion | Patient Information Leaflets

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o daflenni gwybodaeth i gleifion ynglŷn â Deddf Iechyd Meddwl 1983. Bwriad y rhain yw helpu ysbytai ac awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 o ran darparu gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion er mwyn esbonio pam maen nhw wedi cael eu cadw. Maen nhw hefyd yn helpu i gadw at fesurau gorfodol eraill o dan y Ddeddf. Dydy’r taflenni hyn ddim yn rhai statudol a does dim rhaid i ysbytai nac awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol eu defnyddio nhw.

Dylech chi argraffu’r taflenni ar ddwy ochr tudalennau A4, er mwyn eu plygu i greu llyfryn maint A5.

Mae’r taflenni hyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pan fydd angen ar lefel leol, mae Llywodraeth Cymru’n annog ysbytai ac awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol i ddarparu deunydd mewn ieithoedd priodol eraill ac ar ffurfiau eraill sy’n briodol.