Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwella Sicrwydd Ansawdd

Gwasanaeth Gwella Sicrwydd Ansawdd

Adran o’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol yw’r Gwasanaeth Gwella Sicrwydd Ansawdd (QAIS) sy’n canolbwyntio ar wella gofal, ansawdd a gwerth.

Amcanion yr adran yw:

  • Sicrhau gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel sy’n gwella profiad cleifion
  • Herio perfformiad israddol gan ddarparwyr yn gadarn.
  • Darparu goruchwyliaeth, cyngor a chymorth i wella ansawdd gofal.
  • Hwyluso cydweithrediad rhwng darparwyr a chomisiynwyr, gyda’r claf yn ganolbwynt i’r ddarpariaeth gofal; a
  • Sicrhau bod yr holl wasanaethau a gaffaelir yn sicrhau gwerth am arian i’r gyllideb gyhoeddus.

Tu hwnt i’r alwad: Adolygiad cenedlaethol o fynediad at wasanaethau brys i’r rheiny sy’n profi pryderon iechyd meddwl a/neu lesiant

Comisiynwyd yr Adolygiad Cenedlaethol hwn, Tu hwnt i’r alwad, er mwyn deall mwy ynglŷn â'r materion sy'n arwain y cyhoedd at ddefnyddio'r gwasanaethau brys pan maent yn profi pryderon iechyd meddwl a/neu lesiant. Mae’n ymdrin â’r dull ac achosion o drawsgludo drwy wasanaethau brys neu wasanaethau cludo arbennig i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ar ôl cael eu hasesu.