Yn yr adroddiadau isod mae gwybodaeth am y sefyllfa o ran gwelyau a’r rhaglen frechu ar draws GIG Cymru. Mae dangosfwrdd nifer y gwelyau llawn, capasiti a’r rhaglen frechu hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag ocsigen a’r corffdai.
Mae dangosfwrdd y niferoedd cyffredinol o gleifion yn dangos graff o’r ffigurau o ddechrau’r pandemig hyd heddiw, o safbwynt faint o welyau sydd ar gael, i’r cleifion sy’n gwella. Mae’r ddau adroddiad yn cael eu diweddaru’n awtomatig bob dydd am 3pm. Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.