Neidio i'r prif gynnwy

SAFER Arweiniad

Mae canllaw SAFER yn ganllaw o arfer da i hyrwyddo rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol, gwella llif y cleifion a sicrhau nad yw cleifion yn aros yn ddiangen, a hynny trwy gyfres o reolau syml i wardiau cleifion mewnol i oedolion.  Dylai’r gwaith o lunio cynllun i ryddhau claf yn amserol ddechrau wrth dderbyn y claf hwnnw i’r ysbyty lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a dylai gynnwys teuluoedd a gofalwyr o’r cychwyn – mae’n gyfrifoldeb ar bawb.

Ni all ymarferwyr gyflawni’r amcanion sydd wedi eu nodi yn y canllaw hwn ar eu pen eu hunain. Mae’r canlyniadau gorau i’w cael pan fydd gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau tai a sefydliadau statudol a thrydydd sector ehangach oll yn cydweithio i gynnig gwasanaethau integredig yng nghyd-destun ehangach yr hyn y gall iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud gyda’i gilydd.