Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol GIG Cymru, sy’n cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yw gwasanaeth comisiynu cydweithredol GIG Cymru. Gweledigaeth yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol yw:
“Arwain gwaith y GIG Cymru o ran sicrhau ansawdd a gwella, a hynny drwy gomisiynu cydweithredol.”
Diben yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol yw gwella canlyniadau a phrofiad cleifion drwy’r gwasanaethau mae’n eu darparu.
Nodau’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol yw:
- Gwella canlyniadau a phrofiad cleifion.
- O safbwynt cleifion – deall a mynegi beth yw gwasanaeth da.
- Sicrhau bod polisi cenedlaethol wrth wraidd ymarfer lleol.
- Elwa ar gydberthnasau cydweithredol.
- Sicrhau gwerth.
- Newid ymddygiad er mwyn arloesi.