Comisiynwyd yr Adolygiad Cenedlaethol hwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drwy Grŵp Sicrwydd y Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl.
Comisiynwyd yr Adolygiad Cenedlaethol hwn er mwyn deall mwy ynglŷn â’r materion sy'n arwain y cyhoedd at ddefnyddio'r gwasanaethau brys pan maent yn profi pryderon iechyd meddwl a/neu lesiant.
Yn wreiddiol, roedd yr Adolygiad Cenedlaethol hwn yn ymdrin â'r dull ac achosion o gludo gan wasanaethau brys neu gludo pwrpasol ar gyfer person yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ôl cael ei asesu ond, o ganlyniad i'r amhariad ar gynhyrchu'r Adolygiad Cenedlaethol hwn a achoswyd gan Bandemig y Coronafeirws, bydd yr agwedd hon yn cael ei hasesu drwy adroddiad ategol.
Bwriadwyd ymgymryd ag arolwg o 'brofiadau personol' mewn cydweithrediad â'r elusen iechyd meddwl Mind a Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru. Nod yr arolwg hwn oedd deall y profiadau personol o gysylltu â'r gwasanaethau argyfwng cyhoeddus ynghylch pryder iechyd meddwl neu lesiant yn well. O ganlyniad i'r amhariad a achoswyd gan Bandemig y Coronafeirws, bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal yn ddiweddarach a'i gyhoeddi drwy adroddiad ategol.