Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Sefyllfa 20/21

Shane Mills

Y Cyfarwyddwr Ansawdd a Iechyd Meddwl/Anableddau Dysgu - Yr Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol

Ysgrifennaf y rhagair hwn ym mis Mehefin 2021, pan ymddengys ein bod yn dod allan o'r hyn a fu’n 14 mis hynod anodd ac unigryw. Mae pandemig Covid-19 yn parhau i darfu ar wasanaethau, yn ogystal â'n ffordd o fyw.

Wrth i’r pandemig fynd yn ei flaen, addasodd y GGSA ei brosesau ar gyfer monitro ansawdd ond parhaodd y ffrydiau gwaith eraill a ddeilliodd o’r pandemig. Rhan o’r gwaith hwn oedd cynorthwyo’r sector annibynnol i ddod o hyd i gyfarpar diogelu personol a phrofion a brechlynnau ar gyfer staff a chleifion, ar y cyd â chomisiynu rhagor o welyau i ymdopi â chynnydd sydyn yn y galw. Rydym wedi gweithio'n agos gyda darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol yn parhau i gael ei ddarparu drwy'r cyfnod anodd hwn.

Mae'r broses o sicrhau darpariaeth y fframwaith yn ddigonol wedi bod yn anodd iawn yn ystod y pandemig. Cynhaliwyd llawer o'n hadolygiadau trwy ddefnyddio gweithdrefnau tra gwahanol i ddulliau blaenorol o adolygu gwasanaethau. Bu sawl achlysur, oherwydd materion yn ymwneud â pandemig Covid-19, lle nad ydym wedi gallu mynychu safleoedd yn bersonol. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gorfod datblygu a gwella prosesau eraill a dulliau adrodd er mwyn cael y sicrwydd y mae ei angen arnom. Rydym wedi gwneud hyn trwy'r defnydd cynyddol o dechnoleg, fel Microsoft Teams, telegynadledda ac ati, ynghyd â defnyddio ein Porth Rhannu Ffeiliau’n Ddiogel.

Felly, datblygodd GGSA fodel tri cham ar gyfer adolygu gwasanaethau. Yr enw ar hyn oedd Ymateb, Adfer a Dychwelyd:

Ymateb - dyma oedd cam cyntaf y broses adolygu a monitro yn gynnar yn ystod y pandemig, pan oedd pobl yn bryderus ynghylch ymweld â gwasanaethau. Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), arweiniodd GGSA ar fonitro darpariaeth Ysbytai Annibynnol yng Nghymru ac roedd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am fonitro darpariaeth Cartrefi Gofal.

Diben cam Ymateb y broses oedd sicrhau bod data'n cael ei gipio yn gysylltiedig â Staff a Chleifion a oedd dangos symptomau Covid-19, gostwng gweithgareddau ar safleoedd, cael absenoldeb Adran 17, dosbarthu pob safle o ran statws Covid-19, cefnogaeth i gael gafael ar PPE, profion ac ati. Trwy gydol y cyfnod hwn, roedd GGSA yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru, AGIC, NHSE ac AGC i rannu canfyddiadau/pryderon ac ati.

Mae'r broses o roi gwybod am ddigwyddiadau, o ddiogelu ac o gwyno wedi parhau drwy gydol y pandemig.

Adfer - dyma’r cam pan ddechreuodd adolygiadau o bell o wasanaethau. Roedd y cam hwn (a'r camau dilynol) wedi cynnwys Cartrefi Gofal. Cynhaliwyd yr adolygiadau hyn trwy gyfarfodydd ar lein a drefnwyd ymlaen llaw, gyda thystiolaeth o gydymffurfiad yn cael ei chyflwyno trwy'r porth rhannu ffeiliau’n ddiogel. Cynhaliwyd y math hwn o adolygiad pryd bynnag nad oedd GGSA yn gallu mynd i’r safle.

Dychwelyd - dyma’r cam olaf yn y broses ac, i bob diben, mae'n dychwelyd i'r broses o adolygu gwasanaethau fel yr oedd cyn y pandemig. Mae GGSA yn y cam hwn ar hyn o bryd ac mae’n mynd i safleoedd unwaith eto i adolygu gwasanaethau.

O’r holl breswylwyr a osodwyd mewn cartrefi gofal, gosodwyd 79% ohonynt mewn cartref gofal a oedd o fewn 20 milltir i god post sy'n arwyddocaol i'r preswylydd. Ar 31 Mawrth 2021, roedd 309 o breswylwyr wedi'u gosod o dan y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal o'i gymharu â 195 o breswylwyr a osodwyd ar 31 Mawrth 2019.

O'r 11 o gleifion a osodwyd o dan Fframwaith Ysbytai CAMHS y llynedd, gosodwyd 8 o fewn 50 milltir i god post arwyddocaol.

Er gwaethaf y tarfu sylweddol arno, rwy'n falch i’r GGSA ddal i lwyddo i gynnal adolygiadau o 88 o safleoedd drwy gymysgedd o adolygiadau ar y safle ac o bell. Mae rhai pryderon yn parhau ynghylch darparwyr:

Gwelwyd cynnydd (3%) yn nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt ar draws y Fframwaith Ysbytai Oedolion, er nad oedd y digwyddiadau hynny mor ddifrifol.

Rydym wedi adrodd y bu gostyngiad yng nghyfran y safonau a fodlonwyd eleni o gymharu â'r llynedd ar safleoedd CAMHS.

Wrth i ni barhau i adfer o'r pandemig, bydd y GGSA yn ailgychwyn adolygiadau ar y safle a bydd yn cefnogi darparwyr i wella ansawdd a mynd i'r afael â diffygion gofal.

Bydd GGSA, ar y cyd â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn datblygu cytundeb fframwaith gwell, cyfun (Oedolion/CAMHS) newydd a fydd yn lansio ar 1 Ebrill 2022 Er bod y Datganiad Sefyllfa Blynyddol hwn wedi'i gynhyrchu mewn cyfnod mor eithriadol, rwy'n falch o ddweud bod darparwyr, gyda chefnogaeth GGSA, wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau diogel, o ansawdd da, trwy gydol cyfnod anodd iawn.