Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflenni Rhagnodedig

Ffurflenni Rhagnodedig

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chaniatâd i Driniaeth) (Cymru) 2008 yw'r prif reoliadau sy'n delio ag arfer pwerau gorfodol mewn perthynas â phersonau sy'n agored i gael eu cadw yn yr ysbyty neu o dan warcheidiaeth, ynghyd â chleifion cymunedol, o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi'r ffurflenni sydd i'w defnyddio wrth arfer pwerau o dan y Ddeddf, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn Atodlen 1 y Rheoliadau. Daeth y Rheoliadau hyn (a'r ffurflenni rhagnodedig) i rym ar 3 Tachwedd 2008.

Mae Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru 2016 yn nodi canllawiau o dan Bennod 4 ar y wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i gleifion a'u perthnasau agosaf a'u hegluro.

Ar 2 Mehefin 2012, daeth Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chaniatâd i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 i rym. Diwygiwyd y ffurflenni canlynol CO7 , HO15 , CP1 , CP5 , TC8 a chyflwynwyd Ffurflen C08 newydd.

Sylwch: Dylai'r ffurflenni hyn gael eu hargraffu ar bapur pinc. Argymhellir eich bod yn dewis "crebachu i ardal y gellir ei hargraffu" yn eich opsiynau argraffu ar gyfer eich argraffydd. Sgroliwch i lawr rhestr sydd wedi'i rhannu yn eu categorïau unigol

(Dogfennau Saesneg yn unig)