Mae deuddeg mesur adrannau achosion brys arbrofol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn cydweithrediad â Byrddau Iechyd Lleol ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae tri wedi'u datblygu'n llawn ac yn cael eu defnyddio ar draws yr holl fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru i'n helpu i ddeall y darlun ehangach i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir mewn modd amserol gan wella profiad cyffredinol y claf. Y tri mesur arbrofol cychwynnol yw:
Drwy ddefnyddio'r mesurau hyn gall Byrddau Iechyd Lleol ganolbwyntio adnoddau yn unol â hynny ac o ganlyniad gwella profiad y claf. Mae'r data a gawn yn caniatáu i ni baentio darlun cenedlaethol misol, mae'r data diweddaraf a ddangosir yng nghyflwyniad PowerBi ar gyfer mis Mai 2023. Mae'r tudalennau unigol, Amser i Brysbennu, Amser i Gyrchfan Rhyddhau Clinigol ac ED yn cynnwys data yn ôl i fis Chwefror 2022.
Y diweddariad nesaf a drefnwyd yw dydd Iau 20 Gorffennaf 2023 am 09:30am
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddir y mesurau a ddatblygwyd gennym gyda staff rheng flaen fel rhan o Fframwaith Ansawdd a Chyflawni'r Adran Achosion Brys ochr yn ochr ag gweithgarwch a pherfformiad y GIG a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru.
Nodyn: Mae ystadegau arbrofol yn is-set o ystadegau swyddogol sydd newydd eu datblygu neu arloesol sy'n cael eu gwerthuso. Fe'u datblygir o dan arweiniad Pennaeth y Proffesiwn Ystadegau (HoP) a'u cyhoeddi i gynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid wrth asesu eu haddasrwydd a'u hansawdd yn gynnar. Rheoliad y Swyddfa Ystadegau: Canllawiau Rheoliadol