Neidio i'r prif gynnwy

Model Mynediad Cymru

Datblygu Model Mynediad Cymru o’r ‘Gwaelod i Fyny’

Rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Ionawr 2020, roedd rhaglen y Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Adrannau Argyfwng (EDQDF) wedi cynnal cyfres o weithdai i glinigwyr a staff eraill sy’n ymwneud â darparu gofal mewn argyfwng. Diben y digwyddiadau hyn oedd edrych yn fanylach ar ddau o’r Prosiectau Gwella Llwybrau, sef: Trosglwyddo Gofal rhwng Sifftiau (2C) a Brysbennu (2D)

Yn ystod y gyfres hon o weithdai, roedd gofyn i’r cyfranogwyr fapio llwybr cleifion ar ôl cyrraedd. Gallai hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar p’un a ydyn nhw’n dod ar eu liwt eu hunain, yn cyrraedd mewn ambiwlans neu’n cael eu cyfeirio at yr adran argyfwng gan wasanaeth arall. Roedd yr ymarfer hwn yn gyfle i dynnu sylw at rai o’r prif broblemau i adrannau argyfwng, fel gorlethu a nyrsys brysbennu’n gorfod cyflawni gormod o dasgau.

Yn ogystal â hynny, roedd gofyn i’r cyfranogwyr fapio’r llwybr delfrydol i gleifion – ‘Sut beth yw adrannau argyfwng da’. Erbyn mis Chwefror 2020, cyn pandemig y Coronafeirws, roedd rhaglen y Fframwaith wedi creu model arfaethedig o ofal mewn argyfwng.

Yn sgil dechrau pandemig y coronafeirws newydd ar ddechrau’r flwyddyn, cafodd y model hwn ei ailasesu, ac aeth arweinwyr y rhaglen yn ôl wrth eu gwaith i ystyried sut gellid ei addasu i ymateb i argyfwng COVID-19, a hynny drwy roi cymorth clinigol i’r cyhoedd wrth reoli’r llif i mewn i’r adrannau. Roedd y broblem o ran gorlethu’n fwy amlwg oherwydd COVID-19.

Datblygu Model Mynediad Cymru

Penderfynwyd datblygu’r berthynas rhwng gwasanaethau 111/Galw Iechyd Cymru ac adrannau argyfwng a’i gwreiddio ymhellach fel ffordd o gadw pellter cymdeithasol wrth ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf. Arweiniodd hyn at y fersiwn gyntaf o’r hyn a elwir yn Fodel Mynediad Cymru.

Mae’r ddau fodel yn ymgorffori’r cysyniad “Hyb Ffrydio”. Er mewn adrannau argyfwng yr oedd hyn yn wreiddiol, byddai modd ei ddefnyddio ym Model Mynediad Cymru fel gwasanaeth ffonio’n gyntaf, e.e. 111.

System gofal mewn argyfwng lle mae’n rhaid ffonio’n gyntaf yw Model Mynediad Cymru, a dylanwad ar y model hwn yw’r gofal mewn argyfwng sy’n cael ei ddarparu yn Nenmarc. Yn fras, mae modd disgrifio ei dair nodwedd arloesol fel a ganlyn:

System “Cysylltu’n gyntaf”, sy’n galluogi cleifion i drefnu apwyntiadau am ofal ar gyfer achos brys ond sydd ddim yn fygythiad i fywyd. Byddai’n cael ei staffio gan glinigwyr a byddai cleifion yn cael eu ffrydio at fathau o arbenigedd ar ôl cael eu brysbennu dros y ffôn.

“Hyb ffrydio”, lle bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at ysbyty, gwasanaeth sylfaenol neu wasanaeth cymunedol priodol ar sail brysbennu dros y ffôn. Bydd hyn felly’n osgoi’r angen i fynd i adran argyfwng. Os bydd claf yn defnyddio’r gwasanaeth hwn drwy 111, neu ar ôl cael ei frysbennu/asesu mewn adran argyfwng, bydd hyn yn ei alluogi i ddefnyddio llwybrau eraill neu opsiynau eraill o ran triniaeth.

System “aros a gofal”, sy’n cael ei disgrifio fel cyfleuster i ddarparu gofal a chymorth i gleifion sy’n gorfod mynd i’r ysbyty heb fod angen ymyrraeth feddygol neu lawfeddygol ar unwaith.

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gynllun i ailddylunio gofal mewn argyfwng, a Model Mynediad Cymru yw’r model gofal newydd fydd yn cael ei roi ar waith ledled Cymru.

“Sylwch fod Model Mynediad Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu ac y gallai’r diffiniadau uchod newid ar sail gwaith sydd ar y gweill o ran ymgysylltu clinigol a gwerthuso.