Mae deuddeg o fesurau adran achosion brys arbrofol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn cydweithrediad â Byrddau Iechyd Lleol ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae tri wedi’u datblygu’n llawn ac yn cael eu defnyddio ar draws holl Fyrddau Iechyd Lleol Cymru i’n helpu i ddeall y darlun ehangach er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn mewn modd amserol, gan wella profiad cyffredinol y claf. Y tri mesur arbrofol cychwynnol yw:
Trwy ddefnyddio'r mesurau hyn gall Byrddau Iechyd Lleol ganolbwyntio adnoddau yn unol â hynny ac o ganlyniad gwella profiad y claf. Mae'r data a gawn yn ein galluogi i beintio darlun cenedlaethol misol, mae'r data diweddaraf a ddangosir yn y cyflwyniad PowerBi ar gyfer mis Mawrth 2023. Mae'r tudalennau unigol, Amser i Frysbennu, Amser i Glinigol a Chyrchfan Rhyddhau ED yn cynnwys data yn ôl i Chwefror 2022.
Y diweddariad nesaf yw dydd Iau, 18 Mai 2023 am 09:30.
Ar gyfer ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau cysylltwch â Swyddfa'r Wasg Llywodraeth Cymru .
Cyhoeddir y mesurau a ddatblygwyd gennym gyda staff rheng flaen fel rhan o'r Fframwaith Ansawdd a Chyflawni Adrannau Achosion Brys ochr yn ochr ag Ystadegau Gwladol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru .
Nodyn : Mae ystadegau arbrofol yn is-set o ystadegau swyddogol newydd neu arloesol sy'n cael eu gwerthuso. Cânt eu datblygu o dan arweiniad y Pennaeth Proffesiwn ar gyfer Ystadegau (HoP) a'u cyhoeddi i gynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o asesu eu haddasrwydd a'u hansawdd yn gynnar. Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau: Canllawiau Rheoleiddio