Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Elusen

Cymorth Elusen
Cymorth Elusennol

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi eich hun neu am anwylyd, gall yr elusennau, sefydliadau a grwpiau cymorth hyn gynnig cyngor arbenigol ynghylch iechyd meddwl.

Cymorth brys mewn argyfwng:  Os bydd angen cymorth arnoch chi yn ystod argyfwng, gall y Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru eich helpu. Ffoniwch 0800 132737 yn rhad ac am ddim neu tecstiwch ‘help’ i 81066.

Anxiety UK – Elusen sy’n cynnig cymorth os ydych chi wedi diagnosis o gyflwr gorbryder. Ffôn: 03444 775 774 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5.30pm). Gwefan: www.anxietyuk.org.uk

Bipolar UK – Elusen sy’n helpu pobl sy’n byw gydag iselder manig neu anhwylder deubegwn. Gwefan: www.bipolaruk.org.uk

CALM – CALM yw’r ymgyrch yn erbyn byw’n ddigalon i ddynion rhwng 15 a 35 oed. Ffôn: 0800 58 58 58 (bob dydd rhwng 5pm a hanner nos) – Gwefan: www.thecalmzone.net

Men's Health Forum – Cymorth 24/7 dros neges destun, sgwrs ac e-bost i ddynion dan straen. Gwefan: www.menshealthforum.org.uk

Y Sefydliad Iechyd Meddwl – Gwybodaeth a chymorth i unrhyw un gyda phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu. Gwefan: www.mentalhealth.org.uk

Mind – Hyrwyddo barn ac anghenion pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Ffôn: 0300 123 3393 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm). Gwefan: www.mind.org.uk

No Panic – Elusen wirfoddol sy’n cynnig cymorth i’r rheiny sy’n dioddef pyliau o banig ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), Mae’n cynnig cwrs i helpu pobl i oresgyn eu ffobia neu eu hanhwylder gorfodaeth obsesiynol. Ffôn: 0844 967 4848 (bob dydd rhwng 10am a 10pm). Cost galwadau yw 5c y funud yn ogystal â ffi mynediad eich darparwr. Gwefan: www.nopanic.org.uk

OCD Action – Cymorth i bobl gydag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag adnoddau ar-lein a thriniaeth. Ffôn: 0845 390 6232 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm). Cost galwadau yw 5c y funud yn ogystal â ffi mynediad eich darparwr. Gwefan: www.ocdaction.org.uk

OCD UK – Elusen sy’n cael ei rhedeg gan bobl gydag anhwylder gorfodaeth obsesiynol ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r anhwylder. Maen nhw’n darparu ffeithiau, newyddion a thriniaethau. Ffôn: 0333 212 7890 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm). Gwefan: www.ocduk.org

PAPYRUS – Cymdeithas sy’n atal pobl ifanc rhag hunan-ladd. Ffôn: HOPElineUK 0800 068 4141 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 5pm a rhwng 7pm a 10pm, ac ar y penwythnos rhwng 2pm a 5pm). Gwefan: www.papyrus-uk.org

Rethink Mental Illness – Cymorth a chyngor i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Ffôn: 0300 5000 927 (dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.30am a 4pm). Gwefan: www.rethink.org

Y Samariaid – Cymorth cyfrinachol i bobl sy’n teimlo trallod neu anobaith. Ffôn: 0808 164 0123 (llinell gymorth Gymraeg, bob dydd rhwng 7pm ac 11pm) Gwefan: https://www.samaritans.org/cymru/how-we-can-help/contact-samaritan/welsh-language-phone-line/

SANE – Cymorth emosiynol, gwybodaeth ac arweiniad i bobl mae salwch meddwl wedi effeithio arnyn nhw, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr. Textcare: cysur a gofal drwy neges destun, a hynny pan fydd eu hangen fwyaf: www.sane.org.uk/textcare Fforwm cymorth cyfoedion: www.sane.org.uk/supportforum Gwefan: www.sane.org.uk/support

YoungMinds – Gwybodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Gwasanaeth i rieni ac i weithwyr proffesiynol. Ffôn: Llinell gymorth i rieni 0808 802 5544 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4pm). Gwefan: www.youngminds.org.uk

Camdriniaeth (plant, rhywiol, trais domestig)

NSPCC – Elusen arbennig i blant sy’n ceisio rhoi diwedd ar gam-drin plant a chreulondeb tuag at blant. Ffôn: 0800 1111 ar gyfer plant (llinell gymorth 24 awr y dydd) 0808 800 5000 ar gyfer oedolion sy’n poeni am blentyn (llinell gymorth 24 awr y dydd) Gwefan: www.nspcc.org.uk

Refuge – Cyngor ynghylch ymdrin â thrais domestig. Ffôn: 0808 2000 247 (llinell gymorth 24 awr y dydd). Gwefan: www.refuge.org.uk

Camddefnyddio alcohol

Alcoholics Anonymous – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” yn cynnwys dod yn sobr drwy grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 0800 917 7650 (llinell gymorth 24 awr y dydd) Gwefan: www.alcoholics-anonymous.org.uk

Al-Anon – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim ag “12 o gamau” yw Al-Anon. Mae croeso i unrhyw un sy’n dioddef neu wedi dioddef oherwydd arferion yfed rhywun arall. Ffôn: 0800 0086 811 (bob dydd rhwng 10am a 10pm). Gwefan: https://www.al-anonuk.org.uk/

Drinkline – Llinell gymorth gyfrinachol, rad ac am ddim i bobl sy’n poeni am eu hyfed neu am arferion yfed rhywun arall. Ffôn: 0300 123 1110 (rhwng 9am ac 8pm yn ystod yr wythnos a rhwng 11am a 4pm ar y penwythnos).

National Association for Children of Alcoholics – Mae’r Gymdeithas yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim i bawb, gan gynnwys plant, oedolion a gweithwyr proffesiynol, sy’n dioddef oherwydd arferion yfed rhiant. Ffôn: 0800 358 3456 (dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Llun rhwng 12pm a 7pm, ac o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 12pm a 9pm). Gwefan: https://www.nacoa.org.uk/

SMART Recovery UK – Mae grwpiau wyneb yn wyneb a grwpiau ar-lein SMART Recovery UK yn helpu pobl i benderfynu p’un a oes problem gyda nhw ai peidio o ran alcohol a chyffuriau. Maen nhw hefyd yn helpu pobl i fagu’r hyder i newid ac yn cynnig cyfres o adnoddau a thechnegau effeithiol i helpu pobl i wella. Ffôn: 0330 053 6022 am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â SMART Recovery UK (rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwefan: https://smartrecovery.org.uk/

Cymdeithas Alzheimer

Mae Cymdeithas Alzheimer yn darparu gwybodaeth ynglŷn â dementia, gan gynnwys ffeithlenni a llinellau cymorth.  Ffôn: 0300 222 1122 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, a rhwng 10am a 4pm ar y penwythnos). Gwefan: www.alzheimers.org.uk

Profedigaeth

Cruse Bereavement Care – Ffôn: 0808 808 1677 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm).  Gwefan: www.cruse.org.uk

Dioddefwyr trosedd

Rape Crisis – I ddod o hyd i’ch gwasanaethau lleol, ffoniwch: 0808 802 9999 (bob dydd rhwng 12pm a 2.30pm a rhwng 7pm a 9.30pm). Gwefan: www.rapecrisis.org.uk

Cymorth i Ddioddefwyr – Ffôn: 0808 168 9111 (llinell gymorth 24 awr y dydd). Gwefan: www.victimsupport.org

Camddefnyddio cyffuriau

Cocaine Anonymous – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” yn cynnwys rhoi’r gorau i gocên a phob sylwedd seicoweithredol arall, gyda grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 0800 612 0225 (bob dydd rhwng 10am a 10pm). Gwefan: https://cocaineanonymous.org.uk/

FRANK – Gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim ynghylch cyffuriau, eu heffeithiau a’r gyfraith. Mae gwasanaeth sgwrsio byw FRANK ar gael bob dydd rhwng 2pm a 6pm. Ffôn: 0300 1236600 (llinell gymorth 24 awr). Anfonwch gwestiwn drwy neges destun at: 82111. Gwefan: https://www.talktofrank.com/

Marijuana Anonymous – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” yn cynnwys rhoi’r gorau i ddefnyddio mariwana drwy grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 0300 124 0373 (gwasanaeth ffonio yn ôl). Gwefan: http://www.marijuana-anonymous.org.uk/

Narcotics Anonymous – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” yn cynnwys rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau drwy grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 0300 999 1212 (bob dydd o 10am i hanner nos). Gwefan: www.ukna.org

SMART Recovery UK – Mae grwpiau wyneb yn wyneb a grwpiau ar-lein SMART Recovery UK yn helpu pobl i benderfynu p’un a oes problem gyda nhw ai peidio o ran alcohol a chyffuriau. Maen nhw hefyd yn helpu pobl i fagu’r hyder i newid ac yn cynnig cyfres o adnoddau a thechnegau effeithiol i helpu pobl i wella.  Ffôn: 0330 053 6022 am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â SMART Recovery UK (rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwefan: https://smartrecovery.org.uk/

Anhwylderau bwyta

Beat – Ffôn: 0808 801 0677 (i oedolion) neu 0808 801 0711 (i’r rheiny dan 18 oed). Gwefan: www.b-eat.co.uk

Gamblo

Gamblers Anonymous – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” yn cynnwys rhoi’r gorau i gamblo drwy grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 0330 094 0322 (24 awr y dydd). Gwefan: https://www.gamblersanonymous.org.uk/

Gam-Anon – Grŵp hunangymorth rhad ac am ddim. Mae ei raglen “12 o gamau” i’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd arferion gamblo rhywun arall drwy grwpiau cymorth rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Ffôn: 08700 50 88 80 Gwefan: www.gamanon.org.uk

National Gambling Helpline – Ffôn: 0808 8020 133 (bob dydd o 8am i hanner nos). Gwefan: www.begambleaware.org

National Problem Gambling Clinic – Clinig arbenigol gan y GIG i bobl 13 oed neu hŷn gyda phroblemau gamblo. Ffôn: 020 7381 7722 (gwasanaeth ffonio yn ôl). Gwefan: https://www.cnwl.nhs.uk/services/mental-health-services/addictions-and-substance-misuse/national-problem-gambling-clinic

Anableddau dysgu

Mencap – Elusen sy’n gweithio gyda phobl gydag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Ffôn: 0808 808 1111 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm). Gwefan: https://wales.mencap.org.uk/cy

Rhianta

Family Lives – Cyngor ynghylch pob agwedd ar rianta, gan gynnwys delio â bwlio. Ffôn: 0808 800 2222 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 9pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 3pm) Gwefan: www.familylives.org.uk

Cydberthnasau

Relate – Darparwr cymorth cydberthnasau mwyaf y DU. Gwefan: www.relate.org.uk