Neidio i'r prif gynnwy

Treial newydd ar gyfer mesur profiad y claf: Mae EDQDF yn gweithio gyda HappyOrNot ar systemau adborth gan gleifion nad oes angen cyffwrdd â hi.

Bydd y system yn cael ei threialu yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, yn rhan o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Bydd y system yn ei gwneud yn bosibl i gleifion roi adborth yn dilyn eu hymweliad â’r Adran Argyfwng heb orfod cyffwrdd â’r systemau, er mwyn gwella diogelwch yn ystod cyfyngiadau COVID-19. Bydd y data ar gael yn syth ar ôl eu casglu, a bydd y staff yn gallu eu defnyddio mewn ystod o feysydd fel rheoli adnoddau, cydnabyddiaeth staff a rheoli cyfleusterau.  

Cyn COVID-19, roedd gan y rhan fwyaf o adrannau argyfwng ledled Cymru system adborth gan HappyOrNot i gleifion. Yn rhan o fesurau i atal heintiau, cafodd y systemau hyn eu tynnu. Cydweithiodd y tîm EDQDF gydag Adrannau Argyfwng i greu posteri a deunyddiau digidol gyda codau QR, fel bod modd casglu adborth o hyd. 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, e-bostiwch: CTM.EDQDF@wales.nhs.uk