Neidio i'r prif gynnwy

Sgôr Brysbennu Vs Categori Brysbennu

 

Triage Teams Cym

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad


Cefndir

Yn rhan o Raglen y Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi Adrannau Argyfwng (EDQDF), rydym wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd i roi cyfres newydd o fesurau ar waith ar gyfer adrannau argyfwng. Yn ystod y darn hwn o waith, daeth cyfle i’r amlwg i wella ansawdd data lleol a chenedlaethol wrth fewnbynnu gwybodaeth brysbennu cleifion.

Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd ledled Cymru yn defnyddio cymysgedd o 'Sgôr Brysbennu' a 'Chategori Brysbennu sy’n cynnwys Gweld a thrin'. Mae'r anghysondeb hwn yn peri amryw heriau o ran dadansoddi data a hoffem weithio gyda chi yn ystod y gweithdy hwn i ddod o hyd i un dull cyson i Gymru.

Er mwyn sicrhau mewnbwn cytbwys i'r gweithdy, rydym yn annog yr unigolion canlynol ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru i fynychu a chynnig eu mewnbwn proffesiynol:

  • Arweinwyr Clinigol
  • Arweinwyr Nyrsio
  • Nyrsys Brysbennu
  • Timau Gwybodeg
  • Arweinwyr Gweithredol
 
Trosolwg o'r gweithdy

Mae eich llais yn bwysig, ac yn ystod y gweithdy, hoffem glywed gan dimau byrddau iechyd lleol ynglŷn â’u proses leol o fewnbynnu data. Er mwyn eich helpu gyda hyn, byddwn yn rhoi templed cyflwyniad i bob bwrdd iechyd ei gwblhau. Gofynnwn i’r byrddau iechyd eu cyflwyno cyn y gweithdy a neilltuo cyflwynydd i egluro’r broses leol i fynychwyr y gweithdy. Ar ôl cyflwyniadau’r byrddau iechyd, bydd cyfle i’r mynychwyr gyfrannu at y dull cenedlaethol drwy bleidleisio dros eu hoff opsiwn (Sgôr Brysbennu neu Gategori Brysbennu neu Sgôr Brysbennu a Gweld a thrin).